Llofruddiaeth Bae Colwyn: Cyhuddo dynes o gynorthwyo troseddwr

David James Kingsbury Image copyright Heddlu gogledd cymru
Image caption Cafodd corff David James Kingsbury ei ddarganfod ar 5 Ionawr

Mae dynes 40 oed wedi ymddangos yn y llys wedi ei chyhuddo o gynorthwyo dyn sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio.

Yr honiad yw bod Susannah Buckley o Fae Colwyn wedi cynorthwyo Dean Cody, sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio David James Kingsbury.

Cafodd corff Mr Kingsbury ei ganfod yn ardal Bryn Heulog y dref ar 5 Ionawr.

Yn Llys Ynadon Llandudno fe wnaeth Ms Buckley wadu'r cyhuddiad yn ei herbyn.

Cafodd ei rhyddhau ar fechnïaeth a bydd yn ymddangos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug fis nesaf.